Lleoliad:
Hybrid – Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 18 Ionawr 2024
Amser:
10.30 -
13.45
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13662
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Paul Davies AS (Cadeirydd) Jack Sargeant AS (yn lle Hefin David AS) Luke Fletcher AS Vikki Howells AS Samuel Kurtz AS Alun Davies AS (yn lle Buffy Williams AS) |
Tystion: |
Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Gian Marco Currado, Llywodraeth Cymru Dr Richard Irvine, Llywodraeth Cymru Dean Medcraft, Llywodraeth Cymru Jo Salway, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Rob Donovan, Clerc Lara Date, Ail Glerc Evan Jones, Dirprwy Glerc Ceri Thomas, Swyddog Cymorth y Pwyllgor Sara Moran, Ymchwilydd Lucy Morgan, Ymchwilydd Katy Orford, Ymchwilydd Gareth Thomas, Ymchwilydd |
1.1 Trafododd y Pwyllgor y papur cwmpasu a chytuno arno.
2.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David AS a Buffy Williams AS. Roedd Jack Sargeant AS ac Alun Davies AS yn bresennol fel dirprwyon.
2.3 Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
3.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.
4.2 Byddai’r Gweinidog yn darparu eglurder i’r Pwyllgor ar swm yr arian refeniw a ddarperir i Gyswllt Ffermio ar gyfer 2024-25 a fyddai’n dod o’r llinell wariant Cynlluniau Buddsoddi Gwledig yn y gyllideb.
4.2 Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda rhagor o wybodaeth am asesiadau effaith a wnaed i fesur effaith economaidd ffactorau macro-economaidd ehangach, fel chwyddiant, y rhyfel yn Wcrain, a dewisiadau polisi yn ymwneud â Brexit, ar ffermwyr Cymru.
4.3 Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor i ddarparu eglurder ar ffigurau’r gyllideb o ran toriadau i’r gyllideb ar gyfer pysgodfeydd.
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog yr Economi.
5.2 Cytunodd Gweinidog yr Economi i ddarparu nodyn i’r Pwyllgor a anfonwyd gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i ddangos beth y mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio ei wneud o ran gradd-brentisiaethau.
5.3 Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor i amlinellu newidiadau posibl i amcanion a thargedau y gellid eu gosod ar gyfer cymorth busnes o ganlyniad i ostyngiadau o ran gwariant, ac i ddarparu gwybodaeth am ba gymorth y mae Busnes Cymru yn ei ddarparu ochr yn ochr â Banc Datblygu Cymru yn y maes cymorth busnes.
6.1 Derbyniwyd y cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.